Gwasanaethau
Treftadaeth
Nid yw adeilad yn ddim heb do dibynadwy, ond mae gwaith llechi treftadaethol yn nodwedd sy’n gwneud annedd sefyll allan yn draddodiadol, yn ei gerfio i mewn i’r tirlun fel petai wastad wedi bod yno.
Adeilad Llawn
Yn ogystal â thoi strwythurau mwy, gan gyfuno ein sgiliau toi treftadaethol a fframio gyda choed, rydym yn gallu gweithio gyda’n cleientau i ddylunio ac adeiladu strwythurau unigryw sy’n sefyll ar eu pennau eu hunain neu do ar oledd fel garej, tai crwn, stiwdios, adeiladau cysgu, cabanau, siediau, neu dai haf.
Fframio Gyda Choed
Mae Llechen Lân yn adeiladu strwythurau to a phethau eraill gan ddefnyddio gwaith saer coed modern a thraddodiadol. Mae gennym ni angerdd am gyflenwi coed cynaladwy, yn defnyddio gwaith saer coed peg a chelfi llaw er mwyn creu adeiladau traddodiadol wedi’u crefftio’n hardd.
Addurniadol
Wedi astudio yn Köln gyda’r gweithiwr llechi addurniadol adnabyddus yn fyd-eang, Hans Peters, daw Llechen Lân a dylunio llechi addurniadol i’n gwaith toi a chladio, yn ogystal â darparu darnau unigryw.