Ein Hanes Ni


Dechreuodd Llechen Lân yn 2016 fel towyr i Stad Brondanw (cartref Clough Williams-Ellis y pensaer a sefydlodd Portmeirion). Mynychodd Ieuan Thomas Williamson a Bethan Gritten ysgol gynradd yn y mynyddoedd a’i hadeiladwyd gan chwarelwyr llechi ar gyfer eu teuluoedd. Roedd hen daid Ieuan yn llongwr yn cludo llechi o Flaenau Ffestiniog i Borthmadog er mwyn eu danfon dros y môr ledled y byd.

Mae ein tirlun wedi ei siapio gan y deunydd hwn ac mae’r dreftadaeth yn un bwysig i ni. Mae ein gwaith, felly, yn anelu at atgoffa ac ysbrydoli’r gwyliwr o’r hyn gall gael ei wneud gyda deunyddiad naturiol, o’r prosiect symlaf i’r mwyaf uchelgeisiol. Mae hyn yn golygu cadw a datblygu sgiliau sydd dan fygythiad o gael eu colli wrth i gynhyrchu ar raddfa eang ennill momentwm. 

EIN TÎM

  • Ieuan Williamson

    Ieuan Williams ydi’r grym tu ôl i Lechen Lân. Mae ganddo angerdd tuag at waith crefftio, o’r dyluniad a dod o hyd i ddeunyddiau cynaladwy hyd at adeiladu a rhannu sgiliau. Mae Ieuan wedi bod yn toi ers iddo fod yn 21 ac mae ganddo NVQ II mewn Galwedigaethau Toi a Gwobr Lefel 3 mewn Trwsio a Chynnal Adeiladau Traddodiadol. Mae wedi ei hyfforddi yn yr Almaen gyda llechwyr addurniadol sy’n adnabyddus yn fyd eang ac yn addysgu sgiliau llechi uwch yn Ysgol y Meistri Toi, yn ogystal â darparu hyfforddiant ar safle.

  • Dwyryd Rogers

    Mae Dwyryd Rogers yn brentis cryf gyda chefndir teuluol mewn gwaith cerrig ac amaethyddiaeth.  Mae ei sgiliau yn ehangu'n gyflym a bydd yn mynychu cwrs fframio pren dwys gyda Ieuan yn 2024.

  • Gethin Jones

    Mae Gethin wedi ymuno â Llechen Lân yn ddiweddar ond mae o’n aelod gwerthfawr iawn o’r tîm yn barod. Mae ganddo sgiliau trosglwyddadwy ardderchog trwy brofiad efo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac fel athro.

  • Bethan Gritten

    Mae Bethan Gritten (BA Hons) yn darparu gwasanaethau ariannol a strategaethol Llechen Lân. Mae ganddi Dystysgrif Ôl-Raddedig mewn Rheolaeth Llywodraeth Leol a Thystysgrif Broffesiynol mewn Rheolaeth o Fudiad Rheolaeth Prosiectau a gellir ei gweld weithiau ar safle.

Isgontractwyr

Mae gan Jared Williamson bum mlynedd o brofiad gyda Llechen Lân yn ogystal â bod yn brif beintiwr ac addurnwr i Stad Brondanw.

Mae Daniel Quirsfeld yn adeiladwr cyffredinol gyda sgiliau amrywiol ac yn rhedeg DQ Construction.

Rhwydwaith

Mae rhwydwaith eang Llechen Lân yn ein caniatau i ni gefnogi ein cleientau gydag ystod o wasanaethau a dod o hyd i ddeunyddiau o safon am bris teg.

Gweithiwch efo ni 

Os wyt ti’n unigolyn ymroddedig gydag angerdd tuag at waith crefftio, buasem wrth ein boddau yn clywed gen ti. Mae’r rhan fwyaf o’n gwaith wedi’i leoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri ond rydym hefyd yn gweithio tu hwnt i hynny. Cysyllta efo ni i drefnu diwrnod treialu.

“Mae Llechen Lân wedi cwblhau gwaith toi i’m cleientiaid ers sawl blwyddyn. Maen nhw’n arbenigo mewn toi llechi Cymreig traddodiadol ac wedi gwneud gwaith ardderchog yn gorffen pantiau llechi, cladio llechi ar gyfer waliau a simneau ac ail-doi gyda llechi maint amrywiol. Maen nhw wedi stopio mewnlifiad dŵr mewn llefydd y mae eraill wedi methu.”

— Frances Steer, Asiant Tir, Stad Brondanw