Mae Llechen Lân yn cynnig gwaith llechi a phren o safon uchel gan ganolbwyntio ar dechnegau traddodiadol a deunyddiau o ansawdd.

LLECHEN LÂN

Mae Llechen Lân yn gwmni toi unigryw. Wedi’i leoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri yng nghalon tirlun llechi Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, rydym yn gosod her i’n hunain i ddefnyddio’r deunyddiau naturiol o’n cwmpas i’w heffaith ymarferol ac esthetig gorau posib.

Mae ein sgiliau’n cynnwys treftadaeth a thoi modern, adfer/tynnu simneau, cladio llechen, fframio gyda choed, cerfio llechi a chofebau addurniadol. Rydym yn gweithio gyda’n cleientau i ddylunio ac adeiladu prosiectau hir-barhaol, cost effeithiol, cynaladwy a chreadigol gydag esthetig unigryw.

Gall ail-doi fod yn gyfnod heriol i denantiaid a pherchnogion tai, yn ymarferol ac yn ariannol, felly mae gennym ni agwedd gydymdeimladol tuag at y bobl rydym yn gweithio â nhw. Mae’r diwylliant hwn o garedigrwydd yn ymestyn allan i’n gweithlu a’r cyhoedd hefyd. Rydym yn cymryd llesiant a diogelwch o ddifri ac mae gennym yswiriant llawn gydag arbenigwyr yn y maes.

Rydym yn gweithio ledled Prydain ac Iwerddon ac buasem yn gallu ystyried prosiectau yn Ewrop hefyd.

Dan ni’n rhoi ein calon i bob prosiect: dim ots pa mor fawr na fach – mae gan ein holl waith elfen grefftus.

“Roedd bob agwedd gan Llechen Lân yn dawelwch meddwl o’r dechrau ac roedden nhw eisiau gwneud y gwaith i’r safon uchaf posib, boed hynny’n ddeunyddiau, y crefftio neu’r amser dreulion nhw i gael bob manylyn yn iawn. Roedd y canlyniad gorffenedig yn hyfryd, mae’n creu argraff ar bawb sy’n ei weld ac rwan mae gen i wal hollol sych.” 

Philip Hawkins, Ynad Heddwch wedi ymddeol