Cladio
Mae cladio llechi yn hir-barhaol, yn gost effeithiol ac yn ddull deniadol o arbed waliau rhag y tywydd. Mae ein dyluniadau addurniadol yn dod ag esthetig gwirioneddol unigryw, yn caniatau i’n cleientiaid roi mymryn o’u personoliaeth i mewn i’r prosiect.
Mae cladio llechi fertigol yn cael ei fewnosod trwy sgriwio estyll i wal sy’n bodoli eisoes a hoelio llechi i mewn i’r estyll. Rydym yn defnyddio hoelion copr er mwyn osgoi pydru ac er mwyn cadw’r tywydd draw am ddegawdau i ddod. Gellir gosod insiwleiddiad rhwng estyll er mwyn cynyddu perfformiad thermol.
“Dw i byth yn oedi i argymell Ieuan a Llechen Lân os oes angen gwaith llechi o safon uchel a deniadol i’r llygad.”
- Philip Hawkins, Ynad Heddwch wedi ymddeol