Addurniadol

Wedi astudio yn Köln gyda’r gweithiwr llechi addurniadol adnabyddus yn fyd-eang, Hans Peters, daw Llechen Lân a dylunio llechi addurniadol i’n gwaith toi a chladio, yn ogystal â darparu darnau unigryw. 

Daw gwaith llechi addurniadol a chelfyddyd i’r gwaith ymarferol o atal dŵr a gall gael ei ddefnyddio tu mewn a thu allan i adeiladau ac mewn gerddi. Mae ein dyluniadau wedi eu cyd-greu gyda chleientau, llawer ohonynt yn dewis delweddau sy’n cynrhychioli rhywbeth agos at eu calon. 

Mae’r darnau hyn yn cymeryd sgil eithriadol i’w creu gan fod rhaid i bob llechen ddarparu orgyffyrddiad digonol i arbed dŵr rhag mewnlifo yn ogystal â chydfynd â’r dyluniad.

Previous
Previous

Modern

Next
Next

Cladio