Fframio Gyda Choed
Mae Llechen Lân yn adeiladu strwythurau to a phethau eraill gan ddefnyddio gwaith saer coed modern a thraddodiadol. Mae gennym ni angerdd am gyflenwi coed cynaladwy, yn defnyddio gwaith saer coed peg a chelfi llaw er mwyn creu adeiladau traddodiadol wedi’u crefftio’n hardd.
Yn ogystal â thoi strwythurau mwy, gan gyfuno ein sgiliau toi treftadaethol a fframio gyda choed, rydym yn gallu gweithio gyda’n cleientau i ddylunio ac adeiladu strwythurau unigryw sy’n sefyll ar eu pennau eu hunain neu do ar oledd fel garej, tai crwn, stiwdios, adeiladau cysgu, cabanau, siediau, neu dai haf.