Treftadaeth

Nid yw adeilad yn ddim heb do dibynadwy, ond mae gwaith llechi treftadaethol yn nodwedd sy’n gwneud annedd sefyll allan yn draddodiadol, yn ei gerfio i mewn i’r tirlun fel petai wastad wedi bod yno.

Mae ein gwaith treftadaeth yn cynnwys toeau ‘random diminish’, ystod o bantiau llechi, llechi yn hongian ar drothyn derw yn lle estyll gyda phegiau derw yn lle hoelion a thorchu calch (plaster traddodiadol rhwng llechi). Ynghyd â ffenestri to a nwyddau glaw a gwaith paent anadladwy mae’r toeau hyn yn hardd i’r llygad yn ogystal â bod yn effeithiol dros ben a hir-barhaol. 

Mae anadledd y toeau hyn yn rhoi safon aer gwych tu mewn a llai o gyddwysiad. Gyda gwyntyllu strategol gall hyn gael ei gadw hyd yn oed pan y’i gyfunir gyda insiwleiddio modern perfformiad uchel. Fel arall, gall ein ffrindiau yn Hempcrete Cymru osod cywarch hollol naturiol, carbon negyddol rhwng trawstiau ar gyfer to hollol gynaladwy, 

Yn ychwanegol, mae esthetig, safon yr aer ac ystod bywyd anhygoel toeau treftadaethol yn ffactorau sy’n cyfrannu at eu poblogrwydd cynyddol, o fewn adnewyddu a adeiladau newydd – ond yr hyn sydd hefyd yn bwysig ydi cadw a datblygu sgiliau traddodiadol ar gyfer cenhedlaethau’r dyfodol. Mae hyn yn hanfodol pan yn ymateb i ofynion rhestru, gan bod llawer o gwmnïau adeiladu rwan yn methu ail-gynhyrchu nodweddion treftadaeth yn llwyddiannus.

Next
Next

Adeilad Llawn